Siarter Iaith

Dyma bwyllgor o blant Cyfnod Allweddol 2 sydd yn teimlo’n angerddol dros yr iaith Gymraeg a Chymreictod. Ar hyn o bryd rydym yn anelu i dderbyn gwobr Arian y Siarter Iaith. Mae’r Llysgenhadon yn cwrdd er mwyn trafod syniadau.

Ein bwriad yw bod pob plentyn yn dewis siarad Cymraeg graenus ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol a thu hwnt. Y gobaith yw bod pob plentyn yn ymfalchïo yn iaith, diwylliant a thraddodiadau Cymreig.
Mae siarad dwy iaith yn agor drysau i gymuned , byd gwaith a bywyd cymdeithasol llawer mwy amrywiol. Mae dwy iaith yn golygu dwywaith y dewis.   

Fe wnaeth Blwyddyn 5 a 6 baratoi a chyflwyno rhaglen radio Cymru ar hyd DJ Marc Griffiths. Cliciwch ar y ddolen isod i wrando ar eu rhaglen radio.

Daeth Mr Urdd i weld ni ar Ddiwrnod Coch, Gwyn a Gwyrdd.

Daeth Menter Iaith i ymweld â ni i wneud nifer o weithgareddau hwyliog gyda’r plant.

 Siarter Iaith Sir Gâr (2016)