Croeso i dudalen ddosbarth blwyddyn 3 & 4!
Cofiwch:
~ Dillad Addysg Gorfforol ar ddydd Gwener
~ Llyfrau darllen i’r ysgol bob dydd
~ Gwaith cartref mathemateg – Prawf tablau pob dydd Gwener
~ Gwaith Cartref Nandos – gweler y daflen ar dudalen‘Teams’ y dosbarth
Ein thema’r tymor yma ydy ‘Dewch i ddathlu’.
Mae’r thema yma’n canolbwyntio ar wyliau a dathliadau o bell ac agos. Byddwn yn edrych ar draddodiadau a dathliadau o wahanol ddiwylliannau ar draws y byd.
Yn ein gwersi Cymraeg byddwn yn edrych ar ‘Stori Santes Dwynwen’.
Bydd ein gwersi Saesneg yn seiliedig ar y stori ‘George’s Marvellous Medicine’ gan Roald Dahl.
Tymor llawn hwyl a sbri i ddod.
Mrs Sisto