Prydau Ysgol

Mae prydau ysgol yn gyfraniad pwysig at ddeiet plant a phobl ifanc. Mae ein bwydlenni iach, sy’n tynnu dŵr o’r dannedd yn cydymffurfio â Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013. Gellir darparu ar gyfer anghenion arbennig o ran deiet os ceir cais ysgrifenedig gan rieni/gwarcheidwaid.

Bob diwrnod ysgol, mae ein staff arlwyo profiadol sydd wedi cael hyfforddiant llawn yn paratoi mwy na 19,000 o brydau mewn mwy na 110 o sefydliadau addysgol.

Manteision bwyta pryd ysgol:

  • Mae’n arbed amser yn y bore gan nad oes angen paratoi cinio a hefyd nid oes angen poeni am gadw bwyd yn ffres tan amser cinio.
  • Mae prydau ysgol yn cynnig llysiau, salad a ffrwythau ffres sy’n helpu’ch plentyn i gael 5 y dydd.
  • Mae ein prydau’n cynnig gwerth am arian. Gall eich plentyn/plant fwynhau pryd 2 gwrs am £2.67 y dydd yn unig.
  • Mae eistedd a bwyta gyda’i gilydd wrth y bwrdd yn helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a moesgarwch wrth y bwrdd; anogir disgyblion hefyd i roi cynnig ar fwydydd newydd.
  • Mae astudiaethau wedi dangos bod plant yn derbyn gwybodaeth yn well yng ngwersi’r prynhawn os ydynt wedi cael pryd da amser cinio.
  • Rydym yn gyson yn cynnig bwydlen y dydd ar sail thema, yn ogystal â chinio Nadolig 2 gwrs arbennig yn ystod mis Rhagfyr.

Darperir y Gwasanaeth Prydau Ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn fewnol gan Is-adran Arlwyo y Cyngor Sir.

Mwy o wybodaeth yma

Cofiwch ddefnyddio ParentPay i archebu a thalu am brydau ysgol.

Prydau Ysgol am Ddim a Phrydau Ysgol Am Ddim i bob Plentyn Ysgol Gynradd – Deall y gwahaniaeth

Prydau Ysgol am Ddim
Mae prydau ysgol am ddim yn dibynnu ar incwm eich cartref ac os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd, mae’n bwysig iawn eich bod yn hawlio am hyn. Ni fydd y pryd y mae eich plentyn yn ei dderbyn yn wahanol a bydd yn golygu eich bod yn gymwys i gael unrhyw gymorth sydd ar gael yn ystod gwyliau’r ysgol neu os bydd ysgolion yn cau.

Prydau Ysgol Am Ddim i bob plentyn Ysgol Gynradd
Ers 5ed Medi 2022 cynigiwyd Prydau Ysgol am Ddim Cynradd (PYDdC) i bob plentyn yn nosbarth Meithrin llawn amser a Derbyn. Yn dilyn cyflwyno’r cam cyntaf yn llwyddiannus, mae’n bleser gennym eich hysbysu y bydd pob disgybl Blwyddyn 1 hefyd yn cael cynnig PYDdC o ddechrau’r tymor newydd ym mis Ionawr 2023.

Nid yw’r cynnig hwn yn dibynnu ar incwm eich cartref neu a ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, mae pob plentyn yn y grwpiau blwyddyn hyn yn gymwys i fanteisio ar y cynnig. Mae’r prydau dim ond ar gael yn ystod y tymor ysgol ac nid yn ystod gwyliau ysgol. 

Prydau Ysgol am Ddim

Gallech fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os ydych chi’n derbyn un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Elfen warant y Credyd Pensiwn
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Treth Plant ac nid yw eich incwm blynyddol yn fwy na £16,190
  • Ategiad Credyd Treth Gwaith – wedi’i dalu 4 wythnos ar ôl i chi beidio â bod yn gymwys am Gredyd Treth Gwaith
  • Credyd Cynhwysol ac nid yw incwm net blynyddol eich aelwyd yn fwy na £7,400 (£616.67 y mis)
  • Cymorth o dan ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999

Os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith yn ogystal ag unrhyw un o’r budd-daliadau hyn, ni fyddwch yn gymwys, hyd yn oed os yw incwm yr aelwyd yn is na £16,190.

Os ydych eisoes yn derbyn prydau ysgol am ddim ac angen rhoi gwybod i ni am newid yn eich amgylchiadau e.e., newid cyfeiriad, ysgol, newid hawl i fudd-daliadau neu blentyn ychwanegol yn mynychu’r ysgol, mae angen i chi roi gwybod i ni am eich ‘Newid mewn Amgylchiadau’.

Os ydych eisoes yn derbyn prydau ysgol am ddim ond nad oes unrhyw newid yn eich amgylchiadau, NID oes angen i chi wneud cais eto.

GWNEUD CAIS AM BRYDAU YSGOL AM DDIM A RHOI GWYBOD I NI AM NEWID YN EICH AMGYLCHIADAU

Datganiad Strategaeth y Grant Datblygu Disgyblion (GDD)

Dyrennir y Grant Datblygu Disgyblion i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (e-FSM) a disgyblion sydd wedi derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC).

Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol  am ddim neu sy’n LAC.

Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham a ganlyn:

  1. Nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion
  2. Cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau
  3. Monitro a gwerthuso effaith adnoddau

Yn 2022-23 rhoddwyd i Ysgol Llanybydder ddyraniad Grant Datblygu Disgyblion o £19,550 (sy’n cynnwys £4,600 ar gyfer disgyblion Blynyddoedd Cynnar). 

Yn Ysgol Llanybydder mae gennym gynllun cynhwysfawr, sydd wedi’i gytuno a’i fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin/Partneriaeth, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.

Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i:

  • wella dysgu ac addysgu drwy ddarparu rhaglenni cefnogi mewn grwpiau llai
  • darparu rhaglenni ymyrraeth a chymorth y profwyd eu bod yn cael yr effaith fwyaf a’u bod yn gynaliadwy.  Mae RWI, Hwb Ymlaen, Lles a Llythrennau a Synau ac ELSA wedi bod yn rhaglenni effeithiol iawn a pharhawn gyda rhain.
  • darparu hyfforddiant penodol o safon uchel i staff yr ysgol,
  • cyflwyno a defnyddio systemau olrhain data i nodi anghenion dysgwyr, targedu ymyraethau a monitro effaith.
  • gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion eraill, y gymuned a sefydliadau eraill

Mae ein cynllun manwl sy’n cynnwys manylion mewn perthynas â sut rydym yn gwario’r grant ar gael o’r ysgol.

Alergenau, anoddefiadau a deietau arbennig

Rydym yn darparu ar gyfer ystod eang o ofynion deietegol arbennig ac yn cynnig dewisiadau i lysieuwyr bob dydd; mae gofynion presennol ein cwsmeriaid yn amrywio ac maent yn cynnwys gofynion coeliag, soia, halal a diabetig.

Hefyd rydym yn darparu prydau i ddisgyblion ag alergenau a/neu anoddefiadau i gynnyrch penodol. Mae gan wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd restr o 14 o alergenau:

  • Glwten
  • Cramenogion
  • Molysgiaid
  • Wyau
  • Pysgod
  • Peanuts
  • Cnau
  • Ffa soia
  • Llaeth
  • Seleri
  • Mwstard
  • Sesame
  • Bysedd y blaidd
  • Sylffwr Deuocsid ar lefel uwch na 10miligram/cilogram, neu 10 miligram/litr, a nodir fel SO2

Os oes gan eich plentyn ddeiet arbennig a/neu alergedd/anoddefiad i unrhyw un o’r alergenau a restrir uchod, rydym yn gofyn ichi roi gwybod i’r staff arlwyo yn yr ysgol yn syth fel y gellir trefnu a pharatoi prydau ar gyfer eich plentyn/plant.