Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Fel ysgol, rydym yn anelu i ddiwallu anghenion pob plentyn drwy ddarparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae ein ‘Darpariaeth Gyffredinol’ yn cynnwys:

• addysgu dosbarth cyfan

• gwahaniaethu effeithiol

• gwaith grŵp

• ymyriadau unigol a/neu grwpiau bach

• addasiadau priodol a rhesymol i alluogi mynediad i amgylchedd, cwricwlwm a chyfleusterau’r ysgol.

Rydym fel ysgol yn trin pob un plentyn fel unigolyn ac eisiau’r cyfleoedd gorau iddynt. Rydym yn cydnabod bod gan bob un o’n disgyblion fannau cychwyn gwahanol, a byddant yn symud ymlaen ar eu taith drwy’r ysgol ar gyfraddau gwahanol ac mewn gwahanol ffyrdd. Yn ystod eu hamser yn Ysgol Gynradd Llanybydder, bydd y rhan fwyaf o blant yn gwneud cynnydd disgwyliedig yn eu dysgu o’u mannau cychwyn eu hunain. 

Os nad yw plentyn yn symud ymlaen, byddwn yn casglu arsylwadau, yn defnyddio data asesu ac yn ceisio cydweithio ag asiantaethau / gweithwyr proffesiynol allanol i nodi unrhyw anghenion dysgu ychwanegol. Cesglir ystod o dystiolaeth dros amser, gan gynnwys:
 •monitro cynnydd dros gyfnod penodol

 • asesiadau safonedig

 • data arsylwadol

 • offer asesu, fframweithiau a holiaduron

 • asesiadau ffurfiannol o ddysgu dydd i ddydd

 • asesiadau gan asiantaethau eraill e.e., Pediatregydd.

Nodweddir plentyn nad yw’n symud ymlaen yn ei ddysgu gan gynnydd sydd:

• yn llawer arafach na’u cyfoedion sy’n dechrau o’r un llinell sylfaen,

• nad yw’n cyfateb i gyfradd cynnydd flaenorol neu well,

• nid yw’n cau, nac yn ehangu, y bwlch cyrhaeddiad rhwng y plentyn a’i gyfoedion, er gwaethaf y cymorth sydd â’r nod o gau’r bwlch hwnnw.

Mae’r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael ei rhoi ar waith rhwng mis Medi 2021 a mis Awst 2024.

Anghenion Dysgu Ychwanegol – Animeiddiad i egluro’r system newydd i blant, pobl ifanc a rhieni

Beth yw ADY a darpariaeth ddysgu ychwanegol?

Mae plant a phobl ifanc ag ADY angen cymorth ychwanegol i ddysgu. Byddai hyn oherwydd y rhesymau a ganlyn:

  • maent yn ei chael hi’n anoddach dysgu na phlant eraill o’r un oedran
  • mae ganddynt anabledd sy’n golygu na allant ddefnyddio, neu eu bod yn ei chael hi’n anodd defnyddio, cyfleusterau ar gyfer dysgu yn y feithrinfa, yr ysgol neu’r coleg lleol

Nid oes gan rai plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol mewn meithrinfa, ysgol, uned cyfeirio disgyblion (UCD) neu goleg ADY. Efallai mai’r cyfan sydd ei angen ar y plant neu’r bobl ifanc hyn yw rhywfaint o help i ddal i fyny.

Gelwir y cymorth ychwanegol a roddir i blant ag ADY i’w helpu i ddysgu yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Rhaid i’r ddarpariaeth hon gael ei chynnwys mewn cynllun cymorth o’r enw cynllun datblygu unigol (CDU).

Ystyr darpariaeth ddysgu ychwanegol i blentyn sy’n iau na 3 oed yw darpariaeth addysgol o unrhyw fath.

Darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer person 3 oed neu hŷn yw addysg neu hyfforddiant mewn meithrinfa, ysgol, UCD neu goleg gan amlaf sy’n ychwanegol at, neu’n wahanol i, yr hyn sydd ar gael i’r rhan fwyaf o blant o’r un oedran.

Mae hyn yn golygu bod darpariaeth ddysgu ychwanegol yn gymorth sydd ar gael mewn meithrinfeydd, ysgolion neu golegau gan amlaf, ond nid yw’r rhan fwyaf o blant neu bobl ifanc o’r un oedran angen defnyddio’r cymorth hwn i wneud cynnydd.

Gall darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu gan athrawon, cynorthwywyr addysgu neu diwtoriaid. Gall gael ei darparu hefyd gan wasanaethau arbenigol fel therapydd lleferydd ac iaith neu athrawon pobl fyddar.

Beth sy’n newid i blant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig?

Mae Llywodraeth Cymru yn newid y ffordd mae plant a phobl ifanc ag AAA yn cael eu cynorthwyo. Gelwir y cymorth mae plant ag AAA yn ei dderbyn yn ddarpariaeth addysgol arbennig.

Rydym yn disodli’r hen system (AAA) gyda’r system ADY newydd. Mae’r system ADY newydd yn cryfhau pwysigrwydd darparu gwybodaeth a chymorth fel bod plant, pobl ifanc a’u rhieni yn cymryd cymaint o ran â phosibl yn y broses ac mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

Pan gyflwynir y system ADY, byddwch yn sylwi ar y newidiadau canlynol i’r hyn y mae pethau’n cael eu galw:

  • bydd anghenion addysgol arbennig (AAA) yn dod yn anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
  • bydd cydlynwyr anghenion addysgol arbennig (CAAA) yn dod yn gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol (CADY)
  • bydd darpariaeth addysgol arbennig yn dod yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY)
  • bydd cynlluniau fel cynlluniau addysg unigol (CAU), datganiadau a chynlluniau dysgu a sgiliau yn cael eu disodli gan gynllun newydd o’r enw cynllun datblygu unigol (CDU)

Bydd rhai pethau yn aros yr un fath. Mae bod ag ADY yr un fath â bod ag AAA. Mae hyn yn golygu os oes gan blentyn neu berson ifanc AAA, mae’n debygol y bydd ganddo ADY hefyd. Ac mae’n golygu y bydd y ddarpariaeth addysgol arbennig mae plant a phobl ifanc yn ei chael i’w helpu i ddysgu yn y feithrinfa, yr ysgol, yr UCD neu’r coleg gan fod ganddynt AAA yn parhau, os oes ei hangen o hyd, ond bydd bellach yn cael ei galw’n ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

Pryd a sut y bydd plant a phobl ifanc yn symud i’r system newydd

Bydd symud plant o’r system AAA i’r system ADY yn digwydd dros 3 blynedd ysgol i sicrhau bod digon o amser i feithrinfeydd, ysgolion, UCDau ac awdurdodau lleol drafod y cymorth sydd ei angen a llunio cynlluniau.

Bydd plant yn symud o’r system AAA i’r system ADY mewn grwpiau. Y grŵp cyntaf sy’n symud o’r system AAA i’r system ADY yw:

  • plant sy’n mynychu meithrinfa awdurdod lleol, ysgol awdurdod lleol neu UCD ac sydd ag AAA gyda chymorth drwy weithredu yn y blynyddoedd cynnar, gweithredu yn y blynyddoedd cynnar a mwy, gweithredu gan yr ysgol, neu weithredu gan yr ysgol a mwy
  • plant nad oes ganddynt ddatganiad AAA ac nad ydynt yn rhan o broses datganiad AAA (er enghraifft, yn disgwyl penderfyniad am asesiad AAA neu’n disgwyl penderfyniad am ddatganiad AAA)

Mae’r tabl isod yn dangos pryd mae rhaid i blant yn y grŵp cyntaf gael eu symud i’r system ADY yn seiliedig ar eu grŵp blwyddyn ysgol.

Tymhorau’r gwanwyn a’r haf, blwyddyn ysgol 2021 i 2022Meithrin Blynyddoedd 1 neu 2, Blwyddyn 1, Blwyddyn 3, Blwyddyn 5, Blwyddyn 7 neu Flwyddyn 10
Blwyddyn ysgol 2022 i 2023Meithrin Blynyddoedd 1 a 2, Blwyddyn 1, Blwyddyn 5, Blwyddyn 9 a Blwyddyn 10
Blwyddyn ysgol 2023 i 2024Blwyddyn 4 a Blwyddyn 8 ac unrhyw ddisgyblion eraill ag AAA ar 1 Ionawr 2022 sydd heb symud i’r system ADY yn ystod y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn o’i gweithredu

Rhaid i feithrinfeydd awdurdod lleol, ysgolion awdurdod lleol, UCDau ac awdurdodau lleol symud y plant hyn o’r system AAA i’r system ADY rhwng mis Ionawr 2022 a mis Awst 2024.

Os yw eich plentyn yn un o’r grwpiau blwyddyn sy’n symud i’r system ADY newydd dros dymor y gwanwyn a’r haf 2022, bydd eich meithrinfa awdurdod lleol, eich ysgol awdurdod lleol, eich uned cyfeirio disgyblion (UCD) neu eich awdurdod lleol yn cysylltu â chi ac yn rhoi gwybodaeth i chi am bryd a sut y bydd hyn yn digwydd. 5

Bydd grwpiau eraill o blant, fel y rhai sydd â datganiadau AAA, yn symud o’r system AAA i’r system ADY rhwng mis Medi 2022 a mis Awst 2024. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllaw am hyn yn ddiweddarach.

Os nad yw meithrinfa awdurdod lleol, ysgol awdurdod lleol, UCD neu awdurdod lleol yn symud plentyn erbyn 30 Awst yn y flwyddyn y maent i fod i’w symud, bydd y plentyn yn symud yn awtomatig i’r system ADY ar 31 Awst. Byddant yn symud y plentyn drwy roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad dim CDU.

Mae hyn yn golygu os yw plentyn, er enghraifft, i fod i symud i’r system ADY yn ystod tymhorau’r gwanwyn a’r haf yn y flwyddyn ysgol 2021 i 2022 ac nad ydynt wedi cael hysbysiad CDU na hysbysiad dim CDU erbyn 30 Awst, bydd yn symud i’r system ADY ar 31 Awst 2022.

Yna, rhaid i’r feithrinfa awdurdod lleol, yr ysgol awdurdod lleol neu’r UCD wneud penderfyniad ynghylch a oes gan y plentyn ADY ac, os oes angen, llunio CDU o fewn 35 diwrnod ysgol i 31 Awst 2022. Mae gan awdurdod lleol 12 wythnos o 31 Awst 2022 i wneud penderfyniad ac, os oes angen, i lunio CDU.

Sut mae meithrinfeydd awdurdod lleol, ysgolion awdurdod lleol, UCDau ac awdurdodau lleol yn symud plant i’r system ADY

Mae’r system ADY newydd yn pwysleisio mwy o gydweithio, a phwysigrwydd darparu cymorth a gwybodaeth i sicrhau bod plant, a’u teuluoedd a phobl ifanc yn cymryd cymaint o ran â phosibl mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Dyma pam y bydd ysgolion, UCDau neu awdurdodau lleol yn gweithio gyda chi, eich plentyn a gweithwyr proffesiynol eraill gan ddilyn y dull sy’n canolbwyntio ar unigolion i benderfynu ar y ffordd orau o ddiwallu anghenion eich plentyn.

Bydd y rhan fwyaf o blant yn symud o’r system AAA i’r system ADY pan fydd eu meithrinfa awdurdod lleol, ysgol awdurdod lleol, UCD neu awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad CDU iddynt.

Meithrinfeydd, ysgolion ac UCDau fydd yn rhoi’r rhan fwyaf o’r hysbysiadau CDU ond weithiau bydd awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad CDU.

Bydd awdurdodau lleol yn rhoi hysbysiadau CDU i blant sy’n derbyn gofal a phlant sydd wedi’u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad addysg (fel UCD ac ysgol).

Mae hysbysiad CDU yn golygu bod meithrinfa, ysgol, UCD neu awdurdod lleol wedi penderfynu bod gan blentyn ADY ac y bydd CDU yn cael ei wneud ar gyfer y plentyn.

Mae’n debygol y bydd gan blant ag AAA â darpariaeth drwy weithredu yn y blynyddoedd cynnar, gweithredu yn y blynyddoedd cynnar a mwy, gweithredu gan yr ysgol, neu weithredu gan yr ysgol a mwy ADY.

Ar adegau, bydd plentyn a oedd ag AAA yn cael hysbysiad o’r enw hysbysiad dim CDU. Mae hysbysiad dim CDU yn golygu bod y feithrinfa, yr ysgol, yr UCD neu’r awdurdod lleol wedi penderfynu nad oes gan y plentyn ADY ac na fydd CDU yn cael ei wneud ar gyfer y plentyn. Efallai y bydd plant yn cael hysbysiad dim CDU am fod eu hanghenion wedi newid ac nad oes angen cymorth arnynt mwyach i ddysgu.

Sut y gall plant a’u rhieni ofyn i blentyn symud i’r system ADY

Gall plant yn y grŵp cyntaf sy’n symud o’r system AAA i’r system ADY, a’u rhieni, ofyn am gael symud i’r system ADY ar unrhyw adeg ar ôl 1 Ionawr 2022.

Gall plant a’u rhieni wneud hyn drwy ofyn i’r feithrinfa awdurdod lleol, yr ysgol awdurdod lleol, yr UCD neu’r awdurdod lleol eu symud i’r system ADY drwy roi hysbysiad. Gellir gwneud hyn yn ysgrifenedig (megis mewn e-bost neu neges) neu ar lafar (megis yn bersonol neu mewn galwad ffôn).

Rhaid i’r feithrinfa awdurdod lleol, yr ysgol awdurdod lleol neu’r UCD roi hysbysiad CDU neu hysbysiad dim CDU o fewn 15 diwrnod ysgol. Rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad dim CDU o fewn 15 diwrnod gwaith.

Weithiau bydd awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad ADY i symud plentyn i’r system ADY. Rhaid i’r awdurdod lleol wneud hyn mewn 10 diwrnod gwaith.

Symud yn awtomatig o’r system AAA i’r system ADY

Mae rhai newidiadau mewn amgylchiadau sy’n golygu y bydd plentyn yn symud yn awtomatig o’r system AAA i’r system ADY. Pan fydd hyn yn digwydd, dylech ddisgwyl clywed gan eich meithrinfa awdurdod lleol, eich ysgol awdurdod lleol, eich UCD neu eich awdurdod lleol.

Mae hyn yn golygu nad oes angen rhoi hysbysiad i blentyn a’i riant i’r plentyn symud o’r system AAA i’r system ADY.

Bydd plentyn yn symud yn awtomatig os oedd mewn meithrinfa awdurdod lleol, ysgol awdurdod lleol neu UCD ar 1 Ionawr 2022 ac yna:

  • wedi dod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn lleoliad addysg arall, megis ysgol arall neu UCD (wedi’i gofrestru mewn mwy nag un lleoliad addysg)
  • wedi dechrau derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru
  • wedi rhoi’r gorau i fynd i’r ysgol (nid yw hyn yn cynnwys os oedd plentyn wedi rhoi’r gorau i fynd i’r ysgol ar ddiwedd ei gyfnod yn y feithrinfa i symud i ysgol gynradd neu wedi rhoi’r gorau i fynd ar ddiwedd ei gyfnod yn yr ysgol gynradd i fynd i ysgol uwchradd)

Os oedd plentyn yn derbyn gofal ar 1 Ionawr 2022 ac wedi stopio derbyn gofal, bydd yn symud i’r system newydd yn awtomatig.

Hefyd, os oedd plentyn yn mynychu 2 leoliad addysg (fel 2 ysgol neu UCD ac ysgol) ar 1 Ionawr 2022, ac yna dim ond un lleoliad addysg, bydd y plentyn yn symud yn awtomatig i’r system ADY.

Mae symud yn awtomatig yn golygu bod rhaid i’r feithrinfa awdurdod lleol, yr ysgol awdurdod lleol, yr UCD neu’r awdurdod lleol wneud penderfyniad ynghylch a oes gan blentyn ADY pan fo’n credu y gallai fod gan blentyn ADY. Os yw’n penderfynu bod gan y plentyn ADY, rhaid i’r feithrinfa awdurdod lleol, yr ysgol awdurdod lleol, yr UCD neu’r awdurdod lleol roi CDU i’r plentyn.

Grwpiau o blant yn symud rhwng mis Medi 2022 a mis Awst 2024

Bydd y grwpiau canlynol o blant a phobl ifanc yn symud i’r system ADY rhwng mis Medi 2022 a mis Awst 2024:

  • plant sydd ag AAA ac nad ydynt yn mynd i feithrinfa awdurdod lleol, ysgol awdurdod lleol na UCD
  • plant sydd ym Mlwyddyn 11
  • plant sydd â datganiad AAA neu gynllun addysg a gofal iechyd (EHCP)
  • plant sy’n rhan o broses datganiad AAA

Bydd amserlen ar gyfer symud y plant a’r bobl ifanc hyn o’r system AAA i’r system ADY yn cael ei chyhoeddi yn 2022.

Beth os nad wyf yn cytuno â phenderfyniad?

Weithiau, gall anghytundebau godi. Y rhan fwyaf o’r amser, gellir datrys anghytundebau drwy drafod y broblem gyda’r ysgol, UCD neu’r awdurdod lleol. Os ydych yn anhapus gydag unrhyw beth, dylech roi gwybod am hynny cyn gynted â phosibl. Siaradwch â chydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CADY) yr ysgol cyn gynted ag y bydd gennych bryderon. Drwy gydweithio, bydd cyfleoedd i drafod unrhyw broblemau a’u datrys yn gynnar.

Os ydych yn parhau i fod yn anhapus, yna siaradwch â’ch awdurdod lleol i ofyn am gyngor pellach.

Gallwch hefyd apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, mae llawer o sefydliadau gwirfoddol sy’n helpu plant a’u teuluoedd. Dyma rai o’r prif sefydliadau:

  • SNAP Cymru
  • Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar
  • Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru
  • Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall Cymru
  • Comisiynydd Plant Cymru

Gallwch hefyd gael rhagor o fanylion gan eich awdurdod lleol neu drwy anfon e-bost at Lywodraeth Cymru.