Hawliau Plant

Mae’r Comisiynydd Plant Cymru yma i sicrhau bod holl blant a phobl ifanc Cymru yn dod i wybod am eu hawliau. Mae’r hawliau hyn yn bethau sydd angen ar blant a phobl ifanc i fod yn ddiogel, yn iach ac yn hapus. Mae gan y Cenhedloedd Unedig restr o’r holl hawliau sydd gan blant. Enw’r rhestr hon yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, neu CCUHP yn fyr.