Cyngor Ysgol

Credwn yn gryf y dylid cynnwys y disgylbion ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol. Mae’r Cyngor Ysgol yn ffordd i sicrhau bod y disgyblion yn ganolog ym materion yn ymwneud â’r ysgol ac yn gallu gwneud penderfyniadau sydd yn bwysig iddynt.

Yn ddiweddar mae’r cyngor ysgol wedi cynnal awdit amgylcheddol o’r ysgol gyda ffocws penodol ar adeilad yr ysgol a’r ardaloedd allanol. Yn ystod yr awdit y cyngor ysgol nodwyd nifer o feysydd y mae angen eu gwella. Yn dilyn yr awdit ysgrifennodd y cyngor ysgol llythyr at Mr Simon Davies (Pennaeth Mynediad i Addysg) yn gofyn am gefnogaeth ariannol i gynorthwyo ni i gwblhau’r gwaith sydd ei angen. Roeddem yn hynod falch o dderbyn ymateb gan Mr. Davies ac yn dilyn ymweliad gan arolygydd adeiladau’r cyngor mae’r cyngor wedi cytuno i gefnogi’r ysgol i’n galluogi i wella safle ac adeiladau’r ysgol.

Gweler isod llun o fynediad i’r Ysgol cyn ac ar ôl y gwaith adfer. Grym disgyblion ar eu gorau…Da iawn Cyngor Ysgol!!