Darpariaeth Cyn-oed Ysgol yn Llanybydder

Canolfan Teulu Llanybydder

Amseroedd agor: Dydd Mawrth – Dydd Gwener 9yb – 3yp 

Cynnig cymorth i bob teulu o Lanybydder a’r cyffiniau, waeth beth fo’r amgylchiadau. Mae’r cymorth y gallwn ei gynnig yn cynnwys:

  • Sgiliau magu plant 
  • Lleferydd ac iaith 
  • Ffordd iach o fyw (imiwneiddiadau, rhoi’r gorau i ysmygu, bwyta’n iach a gordewdra ymhlith plant) 
  • Diogelwch (yn y cartref, Diogelwch ar y Ffyrdd, Cymorth Cyntaf) 
  • Rheoli cartref (gan gynnwys cyllidebu) 
  • Hyfforddiant, gwirfoddoli ac uwchsgilio 

Yn bennaf oll, rydyn ni’n cynnig croeso cynnes i rieni/mamgus a thadcus/gofalwyr i wneud ffrindiau newydd, mewn amgylchedd anfeirniadol a chyfforddus

Manylion cyswllt | Contact details: Facebook – Llanybydder FamilyCentre 

Ffon – 01570481617 

E-bost llanybydderfc2@gmail.com