Dyma ni yn ennill gwobr Platinwm Eco-Sgolion.
Tymor y Gwanwyn/Haf ‘17
Diwrnod yr adar
Ar y 16eg o Chwefror, cafodd yr ysgol gyfan diwrnod arbennig i ddathlu gwahanol fathau o adar. Cafodd y disgyblion gyfle i arsywli ar adar sy’n ymweld a thir yr ysgol, dysgu mwy amdanynt ac i wneud bwyd are u cyfer.
Ymwybyddiaeth Goryrru
Ar y 30ain o Fawrth 2017, bu disgyblion Blwyddyn 5 & 6 yng nghydweithio efo’r Heddlu, SCCH a’r Cyngor i geisio lleihau goryrru tu allan i’r ysgol yn ogystal â sicrhau bod gyrrwyr yn gwisgo gwregys.
Roedd yr Uned Plismona Ffyrdd yn stopio modurwyr ag oedd yn gyrru dros y terfyn cyflymdra, a roeddent yn cael cynnig talu dirwy a chael pwyntiau ar eu trwydded, neu gyfle i siarad â phlant yr ysgol a’r Swyddog Diogelwch Ffyrdd.
Cynllun ‘Bag2School’
Diolch yn fawr iawn i bawb a gasglodd yr holl ddillad ar gyfer ‘Bag2School’ ‘nôl ym mis Mawrth. Casglwyd 220kg o ddillad efo gwerth o £88 i’r ysgol. Diolch unwaith eto oddi wrth Miss Davies ac aelodau’r cyngor eco.
Diwrnod Eco
Ar ddydd Iau Mai 11eg, cawsom ddiwrnod eco ysgol gyfan. Ar y diwrnod yma cafodd y disgyblion y cyfle i harddu amgylchedd allanol yr ysgol drwy blannu amrywiaeth o flodau a phlanhigion yn ogystal â phlannu amrywiaeth o lysiau i dyfu a fwyta. Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth gyfrannu’n hael i’r diwrnod drwy ei rhoddion o blanhigion a hadau. Roedd y tywydd yn gymharol sych a chafwyd amser gwych yn yr ardd.