Clybiau

Clwb Brecwast – yn ddyddiol rhwng 8yb ac 8.45yb.

Mae’r ysgol yn rhedeg Clwb Brecwast yn ddyddiol sy’n rhad ac am ddim i’r holl ddisgyblion. Mae’r Clwb Brecwast ar agor o 8.00yb-8.45yb ac fe’i cynhelir yn neuadd yr ysgol. Cynigir amrywiaeth o fwydydd a diodydd brecwast iach i’r disgyblion, gan gryfhau’r Statws Ysgol Iach Ysgol Llanybydder. Dylai rhieni gofrestru eu plentyn i’r Clwb Brecwast. Mae ffurflenni cofrestru ar gael gan staff Clwb Brecwast. Rhaid i’r disgyblion gyrraedd yr ysgol cyn 8.35am i ganiatáu digon o amser i fwyta brecwast.

Dydd Mawrth (15:15-16:15):

Clwb Urdd / Chwaraeon i bawb

Dydd Mercher (12:30-13:00):

Sesiwn Addysg Gorfforol gyda’r Llysgenhadon Efydd

Dydd Iau (12:30-13:00)

Clwb Digidol, yn cael ei arwain gan yr Arweinyddion Digidol