Croeso i dudalen dosbarth Blwyddyn 5 & 6!
Cofiwch:
~ Gwisg nofio pob dydd Iau
~ Dillad ymarfer corff pob dydd Gwener
~ Dewch â’ch llyfrau darllen i’r ysgol pob dydd
~ Gwaith cartref Nando’s yn cael ei osod ar Teams pob hanner tymor
~ Prawf Tablau pob dydd Gwener
Ein thema am dymor y Gwanwyn 2022 yw ‘Bant â’i Phen’ lle byddwn yn dysgu am Oes y Tuduriaid.
Yn ein gwersi Saesneg, byddwn yn dysgu am fewnfudwyr a ffoaduriaid drwy ddarllen y llyfrau ‘The Arrival’ gan Shaun Tan a ‘The Boy at the Back of the Class’ gan Onjali Q Rauf.
Yn ein gwersi Cymraeg, byddwn yn dysgu am byllau glo, yn fwy penogol, trychineb Senghennydd. Byddwn yn darllen y nofel ‘Cwmwl Dros y Cwm’ gan Gareth F Williams.
Byddwn yn hynnod o ddiolchgar os wnewch chi ganiatáu eich plentyn i ddod ag unrhyw lyfrau, arteffactau neu luniau sydd yn ymwneud gyda’r thema mewn i’r ysgol. Yn ogystal ag hyn, plîs cysylltwch a mi os ydych yn ymwybodol o unrhyw un fydd yn medru help ni gyda’r thema (ymwelydd i siarad â’r plant ayyb.) Diolch.
Miss H Williams
Gwefannau defnyddiol: