Arolwg ESTYN 2022

Roedd yr ysgol wedi derbyn arolwg ESTYN yn fis Mehefin 2022. Dywedodd arolygwyr Estyn bod Ysgol Llanybydder, ‘yn gymuned hapus, ddiogel a gweithgar’ gan ychwanegu, ‘Mae’r disgyblion yn hynod gwrtais ac yn falch iawn o’u hysgol a’u cymuned. Mae ganddynt lais ym mywyd yr ysgol ac y maent yn cydweithio’n effeithiol â’i gilydd ac oedolion wrth gynllunio profiadau dysgu cyfoethog’.

Pwysleisiwyd mai, ‘Un o nodweddion cryfaf yr ysgol yw’r awyrgylch gartrefol a’r ffordd garedig ac addfwyn mae llawer o’r disgyblion hynaf yn gofalu am eu cyfoedion ieuengaf.’

Dywedwyd hefyd, ‘Mae’r ysgol yn gwrando ar lais y disgyblion ac yn eu cefnogi pan fo angen. Er enghraifft, cefnogodd y llywodraethwyr gais y disgyblion i’r awdurdod lleol i wella cyflwr y ffordd tu allan i’r ysgol. Yn dilyn llythyr manwl gan ddisgyblion yn nodi cyflwr annerbyniol y ffordd, trefnodd yr awdurdod i’r ffordd gael ei thrwsio ar frys.’

Canmolwyd y staff, yr arweinwyr, y llywodraethwyr a’r rhieni.

Cliciwch yma i weld yr adroddiad llawn.

Cliciwch y linc isod i ddarllen erthygl gan Mrs Gwyneth Davies.

Ysgol Llanybydder yn derbyn canmoliaeth uchel gan arolygwyr Estyn!

https://clonc.360.cymru/2022/ysgol-llanybydder-derbyn-canmoliaeth-uchel/