Speakr

Yn Ysgol Llanybydder, mae lles ein disgyblion yn hollbwysig. Cymaint felly ein bod wedi buddsoddi mewn system wych o’r enw Speakr. Mae’n caniatáu i blant gofnodi sut maen nhw’n teimlo bob bore wrth gyrraedd yr ysgol trwy ddewis un o lawer o wynebau emoji sy’n esbonio sut y maent yn teimlo orau ar y pwynt penodol hwnnw. Mae hefyd yn caniatáu iddynt roi rheswm dros eu teimladau. Beth sy’n wych am Speakr yw nad oes cyswllt wyneb yn wyneb fel bod disgyblion yn gallu bod yn gwbl onest heb deimlo embaras neu’n poeni am siarad ag oedolyn. Mae gan y disgyblion hawl i ddanfon neges/euon at unrhyw aelod o staff yn uniongyrchol. Caiff y system hon ei monitro’n agos gan yr athrawon dosbarth bob bore er mwyn delio â materion lles yn gyflym.

Mae’r system yn caniatáu inni fonitro a thracio lles pob disgybl i sicrhau eu bod yn hapus ac yn ddiogel.

Erthygl 16: eich hawl i breifatrwydd.

Erthygl 19: eich hawl i gael eich cadw’n ddiogel.

Erthygl 12: eich hawl i gael gwrandawiad.