Creu cymeriadau'r Pedwar Pwrpas CIG

Cafodd disgyblion Bl 3-6 hwyl fawr yn dylunio cymeriadau i’r 4 Pwrpas, dan arweiniad ‘cispmultimedia.’ Cafwyd nifer o syniadau gwych ac roedd yn hynod o anodd dewis y dyluniadau terfynol.

Yr enillwyr oedd:

Iesyn Iach – cynlluniwyd gan Morgan

Ceri Creadigol – cynlluniwyd gan Rinoa

Teci Tecwyn – cynlluniwyd gan Koby

Eli Eco – cynlluniwyd gan Leah

Rwy’n siŵr y cytunwch fod y pedwar cymeriad yn edrych yn wych. Da iawn pawb!